Ar gyfer pwy mae gwefan Tedi Horsley?

Mae gwefan Tedi Horsley ar gyfer y rhai sydd eisiau dod i wybod am Eglwys gadeiriol Bangor. Mae ar gyfer

  • rhai sy’n byw ym Mangor ac sy’n pasio’r Eglwys Gadeiriol bob dydd
  • rhai sy’n byw yng Ngogledd Cymru ac sy’n dod i Fangor
  • rhai sy’n ymweld â Gogledd Cymru ar eu gwyliau
  • rhai sy’n byw ymhell ac sydd eisiau dychmygu ymweliad

Mae’r wefan ar gyfer

  • teuluoedd sydd eisiau rhoi’r profiad i’w plant o ymweld â’r Eglwys Gadeiriol
  • ysgolion sy’n cynnal prosiect ar yr Eglwys Gadeiriol

Mae’r wefan wedyn yn cynnig

  • syniadau ar gyfer ymweld ag eglwysi eraill yng Ngogledd Cymru
  • storïau eraill am Tedi Horsley
  • ffyrdd i bobl ifanc ymwneud ag addoli ar y Sul yn eu heglwysi eu hunain