Tedi Horsley’n gwledda gyda Iesu

Teddy Horsley feasts with Jesus - 1

Mae’n fore Sul ac mae Tedi Horsley’n teimlo’n llawn cyffro.

Teddy Horsley feasts with Jesus - 2

Ar fore Sul mae Tedi Horsley’n codi’n fore ac yn mynd allan gyda Lucy, Walter a Betsi Bêr.

Teddy Horsley feasts with Jesus - 3

Mae Mr a Mrs Henry’n arwain Tedi Horsley heibio’r siopau nes byddan nhw’n dod at yr eglwys. Beth fydd yn digwydd yno'r wythnos hon?

Teddy Horsley feasts with Jesus - 4

Mae Tedi Horsley a Betsi Bêr yn cwrdd â’u ffrindiau i gymryd rhan mewn drama am wledda gyda Iesu.

Teddy Horsley feasts with Jesus - 5

Heddiw, maen nhw’n dewis gwisgoedd i fod yn bysgotwyr, bugeiliaid, ffermwyr, pobyddion, a hyd yn oed Iesu ei hun.

Teddy Horsley feasts with Jesus - 6

Dechrau’r stori oedd pan aeth Iesu â’i ddisgyblion ar draws y llyn i gael lle tawel ac ychydig o heddwch. Roedd Iesu eisiau siarad â nhw ar ben eu hunain.

Teddy Horsley feasts with Jesus - 7

Roedd y dyrfa’n gwybod i ble roedd Iesu’n mynd ac fe wnaethon nhw frysio ar hyd y lan i ochr arall y llyn er mwyn bod yno o’i flaen. Roedden nhw’n newynog am glywed Iesu’n addysgu.

Teddy Horsley feasts with Jesus - 8

Pan welodd Iesu’r dyrfa, fe deimlodd drueni tuag at y bobl. Roedden nhw’n ymddangos i Iesu fel defaid heb fugail.

Teddy Horsley feasts with Jesus - 9

Eisteddodd Iesu i lawr ac addysgu llawer o bethau i’r dyrfa am deyrnas Duw, nes dechreuodd yr haul fachlud ac y dechreuodd boliau rymblan.

Teddy Horsley feasts with Jesus - 10

Yna fe ddaeth bachgen â phum torth a dau bysgodyn i Iesu. Derbyniodd Iesu’r rhoddion hyn yn llawen.

Teddy Horsley feasts with Jesus - 11

Fe wnaeth Iesu gymryd y bara, diolch i Dduw amdano, ei dorri, a’i rannu â phawb. Y diwrnod hwnnw, fe gafodd pum mil o bobl eu bwydo.

Teddy Horsley feasts with Jesus - 12

Fe ddatblygodd y stori pan aeth Iesu â’i ddisgyblion i’r ystafell uchaf i gael lle tawel ac ychydig o heddwch. Roedd arno eisiau bwyta pryd bwyd y Pasg Iddewig gyda nhw.

Teddy Horsley feasts with Jesus - 13

Eisteddodd y disgyblion o gwmpas bwrdd bwyd y Pasg Iddewig. Roedd yr haul eisoes wedi machlud ac roedd boliau wedi dechrau rymblan.

Teddy Horsley feasts with Jesus - 14

Yna fe ddaeth y disgyblion â thorth o fara a chwpanaid o win i Iesu. Derbyniodd Iesu’r rhoddion hyn yn llawen.

Teddy Horsley feasts with Jesus - 15

Fe wnaeth Iesu gymryd y bara, diolch i Dduw amdano, ei dorri, a’i rannu â phawb. Fe ddywedodd, ‘Dyma fy nghorff i. Mae’n cael ei roi ar eich rhan’.

Teddy Horsley feasts with Jesus - 16

Fe wnaeth Iesu gymryd y cwpan, diolch i Dduw, a rhannu’r gwin â phawb. Fe ddywedodd, ‘Dyma fy ngwaed i. Mae’n cael ei dywallt ar eich rhan’.

Teddy Horsley feasts with Jesus - 17

Y diwrnod hwnnw, fe gafodd y deuddeg disgybl eu bwydo. Wrth i’r bara gael ei dorri a’i rannu roedden nhw’n gwybod bod Iesu gyda nhw.

Teddy Horsley feasts with Jesus - 18

Fe aeth y stori ymlaen ar ôl marwolaeth Iesu pan oedd dau ddisgybl trist yn cerdded yn flinedig ar hyd y ffordd i Emaus.

Teddy Horsley feasts with Jesus - 19

Fe ddaeth Iesu i gerdded gyda’r ddau ddisgybl ar eu taith hir, ond wnaethon nhw ddim sylweddoli mai Iesu oedd yn cerdded gyda nhw.

Teddy Horsley feasts with Jesus - 20

Wrth iddyn nhw gerdded, roedd Iesu’n addysgu llawer o bethau iddyn nhw am deyrnas Duw, nes dechreuodd yr haul fachlud ac y dechreuodd boliau rymblan.

Teddy Horsley feasts with Jesus - 21

Fe wnaethon nhw gyrraedd Emaus a mynd i mewn i’r tŷ. Yna fe ddaeth y disgyblion â thorth o fara i Iesu. Derbyniodd Iesu eu rhodd yn llawen.

Teddy Horsley feasts with Jesus - 22

Fe wnaeth Iesu gymryd y bara, diolch i Dduw amdano, ei dorri, a’i rannu â nhw. Fe wnaethon nhw fwyta ac fe gafodd eu llygaid eu hagor.

Teddy Horsley feasts with Jesus - 23

Y diwrnod hwnnw, dim ond dau ddisgybl gafodd eu bwydo. Wrth i’r bara gael ei dorri a’i rannu roedden nhw’n gwybod bod Iesu gyda nhw.

Teddy Horsley feasts with Jesus - 24

Mae’r stori’n parhau heddiw ledled y byd pan fydd pobl Duw’n dod ynghyd ac yn dod â thorth o fara a chwpanaid o win i Iesu.

Teddy Horsley feasts with Jesus - 25

Heddiw, mae Iesu’n derbyn y rhoddion hyn yn llawen. Mae’n cymryd y bara, yn diolch i Dduw, yn torri’r bara ac yn ei rannu â phobl Duw.

Teddy Horsley feasts with Jesus - 26

Mae’n fore Sul ac mae Tedi Horsley’n clywed galwad Iesu. Mae’n gwybod, pan fydd bara’n cael ei dorri a’i rannu, bod Iesu yno gydag ef.