Gŵyl Coed Nadolig

Y Nadolig yw un o hoff adegau’r flwyddyn gan Tedi Horsley. Mae’n hoff iawn o edrych ar goed Nadolig. Mae’n rhyfeddu at yr holl siapiau a meintiau, yr addurniadau a’r lliwiau, a’r goleuadau’n disgleirio.

Mae Tedi Horsley’n llawn cyffro wrth ymweld â Gŵyl Coed Nadolig Eglwys Gadeiriol Bangor. Wrth iddo gerdded o gwmpas yr Eglwys Gadeiriol. Mae’n gweld llawer o goed Nadolig wedi eu haddurno gan wahanol grwpiau o’r gymuned leol. Wrth iddo eistedd a gwrando ar y gwasanaeth Gŵyl Coed Nadolig, mae’n clywed y fendith sy’n cael ei rhoi ar y coed Nadolig ac yn gweld y gymuned leol wedi dod ynghyd.  

Mae Tedi Horsley wedi gwneud ffilm o’i ymweliad â’r ŵyl Coed Nadolig ac mae wedi meddwl am bethau yr hoffech chi eu gwneud efallai.

Beth am i chi ddarllen Adeg y Nadolig gyda Tedi Horsley a dod i wybod mwy am sut mae Tedi Horsley’n dathlu’r Nadolig.